Geiriad y ddeiseb:
Mae Gwesty’r Vulcan yn Stryd Adam, a adeiladwyd yn 1853, yn un o dafarndai hynaf Caerdydd. Trefnwyd iddo gael ei ddymchwel ym mis Mehefin 2009 i wneud lle i faes parcio aml-lawr a fflatiau. Helpwch ni i wneud i’r datblygwyr gynnwys y Vulcan yn eu dyluniadau a rhoi stop ar y fandaliaeth ddianghenraid hon o ddiwylliant a hanes Caerdydd.
Mae sôn am symud y dafarn i Amgueddfa Sain Ffagan ond ni ddylai’r Vulcan fod mewn amgueddfa; dylai fod lle y bu am 155 blynedd – yng nghanol Caerdydd.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn credu bod mwy o werth i Gaerdydd o gael Gwesty’r Vulcan yn sefyll nag o’i gael wedi’i ddymchwel, ac mae mwy o werth iddo o’i gael yn sefyll lle y mae nag o’i gael mewn amgueddfa. Rydym yn annog y datblygwyr i barchu diwylliant a hanes Caerdydd a diogelu’r adeilad hanesyddol hwn ar ei safle presennol.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Rachel Thomas
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Mawrth 2009
Nifer y llofnodion: 5,000